Mae Meddylfryd TGAU: 40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd disgyblion gan Steve Oakes a Martin Griffin yn cynnig cyngor clir, ymarferol a chymwys, sydd wedi’u cynllunio i godi gwytnwch, positifrwydd, trefniadaeth a phenderfyniaeth myfyrwyr TGAU.
Ar adeg pan mae dysgu TGAU yn gallu teimlo fel cylch diddiwedd o wersi wedi’u gor-reoli ac ymyriadau funud olaf, mae Steve a Martin – awduron o fri Meddylfryd ar gyfer Safon Uwch– yn awgrymu ymagwedd wahanol, wedi'i ategu gan eu model VESPA o sgiliau bywyd hanfodol: gweledigaeth, ymdrech, systemau, ymarfer ac agwedd.
Mae'r pum nodwedd an-wybyddol hyn yn rhagfynegydd gwell o lwyddiant academaidd na sgiliau gwybyddol, ac yn Meddylfryd TGAU mae Steve a Martin yn cymryd y model syml hwn fel eu man cychwyn ac yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau, adnoddau a strategaethau sy'n hawdd ei defnyddio a fydd yn helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau, adeiladu gwydnwch, rheoli eu llwyth gwaith, a chyflawni eu potensial – yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Mae’r pedwardeg gweithgaredd yn y llyfr hwn, tra'u bod wedi'u categoreiddio'n thematig o dan ymbarél VESPA, wedi cael eu trefnu'n gronolegol fesul mis ar draws y flwyddyn academaidd er mwyn helpu myfyrwyr i lywio'r daith sydd o'u blaenau. Gellir cyflwyno pob gweithgaredd un i un, i grŵp tiwtor neu i garfan gyfan. Mae’r gweithgareddau wedi’u gynllunio i gymryd pymtheg i ugain munud i'w gwblhau, ac mae wedi'i ysgrifennu gyda disgyblion mewn golwg. Yn ogystal, mae'r awduron hefyd yn egluro’r ymchwil a'r theori sylfaenol – gan gynnwys gwaith arloesol Angela Duckworth, Dr Steve Bull a Carol Dweck – yn fanwl o fewn y cyflwyniad i bob adran.
Gyda dros drideg mlynedd o brofiad dysgu a hyfforddi rhwng yr awduron, mae’r llawlyfr hanfodol yma hefyd yn awgrymu cwestiynau ac ymyriadau hyfforddi allweddol i'w defnyddio gyda disgyblion. Mae'n cynnwys arweiniad arbenigol ar sut y gall ysgolion sefydlu a gweithredu'r dull VESPA o fewn eu gwaith.
Yn ogystal – ac yn wir yn berthnasol yn yr amgylchedd addysgol presennol lle mae data empirig yn cael ei werthfawrogi’n uchel – mae'r llyfr yn cynnwys pennod sy'n ymroddedig i werthuso’r meddylfryd, a ysgrifennwyd gan gyfranwyr gwadd Dr Neil Dagnall a Dr Andrew Denovan o Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Maent yn cyflwyno'r holiadur VESPA, y buont yn helpu Steve a Martin i'w ddylunio, ac yn arwain y darllenydd drwy'r broses ymchwil y tu ôl i’r holiadur cyn disgrifio sut y gellir ei ddefnyddio i nodi meysydd i'w datblygu ac i fesur effaith ymyriadau.
Addas i athrawon, tiwtoriaid a rhieni sydd am wella canlyniadau academaidd pobl ifanc 14-16 oed a'u ddysgu technegau pwerus er mwyn eu paratoi am addysg bellach a chyflogaeth.
Cynnwys:
- Y model VESPA: Rhagarweiniad i VESPA
- Defnyddio’r Llyfr Hwn
- Mis Medi: Dechrau gyda’r Pam
- Mis Hydref: Mapio’r Daith
- Mis Tachwedd: Dangosyddion Rhagfynegi ac Ôl- fynegi
- Mis Rhagfyr: Tri Chyfnod Ymarfer
- Mis Ionawr: Galluogedd ac Effeithiolrwydd
- Mis Chwefror: Mae Ymdrech yn Gymharol
- Mis Mawrth: Ymladd neu Ffoi
- Mis Ebrill: Newid Lonydd, Canfod Llif
- Mis Mai: Lles a Rheoli Straen
- Hyfforddi gyda VESPA
- Gweithredu: Rhoi VESPA ar Waith
- Defnyddio Profion Seicometrig i Fesur Meddylfryd